Story
Ym mis Medi 2026, bydd criw ohonom yn beicio 500 milltir drwy Gymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon ac Iwerddon er mwyn codi arian i Ambiwlans Awyr Cymru.
Yn 2006, fe gollon ni Myfyr mewn damwain, ac yn 2016 fe wnaeth criw ohonom ymgymryd â'r her o feicio o amgylch arfordir Cymru, gan godi £28,000 tuag at yr elusen hon. Eleni, byddai Myfyr wedi dathlu ei ben-blwydd yn 40 oed, ac i nodi deng mlynedd ers y daith feicio gyntaf, ac er cof amdano, rydym am ymgymryd â her arall a fydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl eraill.
Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn darparu gofal brys sy'n achub bywydau ledled Cymru, ac mae'n dibynnu ar roddion y cyhoedd i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr a'r cerbydau ymateb ar y ffordd.
Drwy gwblhau'r daith hon, rydym yn gobeithio troi cof Myfyr yn rhywbeth cadarnhaol a helpu'r gwasanaeth hanfodol hwn i barhau i achub bywydau ledled Cymru.
Bydd pob rhodd, boed yn fawr neu'n fach, yn cael ei gwerthfawrogi'n fawr. Diolch o galon am eich cefnogaeth.
In September 2026, a group of us will be cycling 500 miles through Wales, England, Scotland, Northern Ireland and Ireland to raise money for Wales Air Ambulance.
In 2006, we lost Myfyr in an accident, and in 2016 a group of us took on the challenge of cycling around the coast of Wales, raising £28,000 for this incredible charity. This year, Myfyr would have celebrated his 40th birthday, and to mark ten years since our first cycling challenge, and in his memory, we want to take on another challenge that will make a difference to the lives of others.
Wales Air Ambulance provides lifesaving emergency care across Wales and relies on public donations to keep its helicopters in the air and its rapid response vehicles on the road.
By completing this journey, we hope to turn Myfyr's memory into something positive and help this vital service continue to save lives throughout Wales.
Every donation, no matter how big or small, will be greatly appreciated. Thank you from the bottom of our hearts for your support.
