Caer Elen yn Cicio Cancr

Codi Arian i Ganolfan Canser Felindre / Raising Money for Velindre Cancer Centre
At Ysgol Caer Elen we are launching an appeal to support a cause that is very close to our hearts. One of our pupils Luc from Year 10 has recently been diagnosed with cancer. It has been a challenging time for him, his family, and our entire school community. During the last few months he has been receiving treatment at the Velindre Cancer Centre and the care and support provided has been nothing short of extraordinary. We are determined to show our gratitude by raising funds which will help staff at Velindre to continue to make a difference to other individuals facing similar challenges.
To this end, we are launching a series of fundraising events aimed at raising money for Velindre to help support cancer patients across Wales. We are reaching out for sponsorship for the following events:
1. Swimathon – 4 pupils from Ysgol Caer Elen will be swimming the distance from Ysgol Caer Elen to Velindre (99 miles) during the Advent period.
2. Santa run – pupils will be completing a sponsored funrun (1-3km based on age) on the 13th of December
3. Sponsored walk – Ysgol Caer Elen staff will be completing a 10 mile night time walk on the 16th of December
4. Cyclathon pupils will be cycling the distance from Ysgol Caer Elen to Velindre Hospital and back in one day (188miles) on the 19th of December
5. School Challenges – The school will be holding several events such as sports matches and movie nights to raise funds.
At Ysgol Caer Elen we are a close-knit community, and it is during times like these that we come together to show support. We believe that with your help, we can make a meaningful contribution to Velindre and bring some joy to those facing a difficult Christmas.
Thank you in advance for your generosity and consideration. Your support will not only make a difference to the Velindre Cancer Centre but also provide a source of comfort and support to Luc and his family during this difficult time.
Yn Ysgol Caer Elen, rydym yn bwriadu lansio apêl i gefnogi achos sydd yn agos iawn at ein calonnau. Yn ddiweddar derbyniodd Luc sydd yn ddisgybl ym Mlwyddyn 10 ddiagnosis o ganser. Mae wedi bod yn gyfnod heriol iawn iddo ef, ei deulu, ac i'n cymuned ysgol gyfan. Yn ystod y misoedd diwethaf mae'r gofal a'r cymorth a ddarparwyd gan Ganolfan Ganser Felindre wedi bod yn arbennig ac yn allweddol. Rydym yn awyddus felly i ddangos ein gwerthfawrogiad trwy godi arian a fydd maes o law yn helpu’r staff yn Felindre i barhau i wneud gwahaniaeth i unigolion eraill sy’n wynebu brwydrau tebyg.
I'r perwyl hwn, rydym yn bwriadu lansio cyfres o weithgareddau er mwyn codi arian gyda’r nod o gasglu arian ar gyfer Felindre er mwyn helpu cleifion canser ar draws Cymru. Rydym yn gofyn yn garedig felly am nawdd ar gyfer y gweithgareddau canlynol:
1. Nofiothon – Bydd 4 o ddisgyblion Ysgol Caer Elen yn nofio’r pellter o Ysgol Caer Elen i Felindre (99milltir) dros gyfnod yr Adfent.
2. Ras Santa – Bydd disgyblion yn cyfranogi mewn ras hwyl noddedig (1-3km yn dibynnu ar oedran) ar y 13eg o Ragfyr.
3. Taith gerdded noddedig – Bydd staff Ysgol Caer Elen yn cwblhau taith gerdded 10 milltir yn ystod noson yr 16eg o Ragfyr.
4. Beicio noddedig – Bydd disgyblion yn beicio’r pellter o Ysgol Caer Elen i Ysbyty Felindre ac yn ôl mewn un diwrnod (188milltir) ar y 19eg o Ragfyr.
5. Heriau ysgol – Bydd yr ysgol yn cynnal sawl her amrywiol fel gemau chwaraeon, stondinau ac arosiadau ffilm i godi arian.
Yn Ysgol Caer Elen, rydym yn gymuned agos, ac yn ystod cyfnodau fel hyn rydym yn dod ynghyd i ddangos ein cefnogaeth. Credwn, gyda’ch help, y gallwn godi swm o arian a fydd yn cefnogi gwaith Felindre tra ar yr un pryd dod ag ychydig o lawenydd i'r rheiny sy’n wynebu cyfnod y Nadolig digon anodd.
Diolch o flaen llaw am eich haelioni a'ch parodrwydd i helpu. Bydd eich cefnogaeth nid yn unig yn gwneud gwahaniaeth i'r elusen ond hefyd yn cynnig cysur a gobaith i Luc a’i deulu yn ystod y cyfnod heriol hwn.
Charities pay a small fee for our service. Learn more about fees