Taith Mari Glyn Adre' - Mari Glyn's Journey Home

Join team
Team fundraiser3 members3 charities
£19,882
raised

Charities we support3

Raising money for Cots for Tots, Swansea Bay Health Charity and Hywel Dda Health Charities

Story

4 Marathon Ultra mewn 4 Diwrnod.

4 Ultra Marathons in 4 Days.

Ysbyty St Michael’s Bryste – Ysbyty Singleton – Ysbyty Glangwili – Adre’

St Michael's Hospital Bristol - Singleton Hospital - Glangwili Hospital - Home

*English below

Rhwng Awst 1-4, 2024 bydd Carwyn, tad Mari Glyn, a chriw o gefnogwyr yn rhedeg o Ysbyty St Michael’s, Bryste, yr holl ffordd adre i Langynnwr. Byddant yn mynd heibio’r dair ysbyty a achubodd fywyd Mari yn dilyn dechreuad anodd gan ddilyn ‘Taith Mari Glyn Adre’ - dros 110 o filltiroedd.

Rydym yn codi arian at dair elusen wnaeth ein helpu ni gael ein merch fach gref, benderfynol a dewr adre’. Yn dilyn diagnosis torcalonnus tra'n 28 wythnos beichiog, cawsom ddwy lawdriniaeth cyn-geni ym Mryste, cyn dod i benderfyniad anodd yn 31 wythnos i'w geni hi'n gynnar mewn cyflwr difrifol a hynny mewn ysbyty arbenigol ym Mryste.

Ar ôl 6 wythnos yn NICU, St Michael's Bryste, gyda Mari ar beiriant anadlu yn derbyn nifer fawr o driniaethau a sawl diwrnod tywyll, daeth Mari drwyddi, diolch i’r gofal arbennig y cafodd hi yno gan yr arbenigwyr. Doedd dim modd i ni gael ein cwtsh cyntaf gyda hi tan ei bod hi’n 5 wythnos oed. Yn 6 wythnos oed, daeth Mari dros y gwaethaf a chawsom ddod nôl i Gymru, ond nid adre eto. Treuliom 6 wythnos arall rhwng NICU Ysbyty Singleton a SCBU Ysbyty Glangwili yn derbyn triniaethau a gofal, ac yn araf bach, gostyngwyd yr angen am gymorth anadlu a meddyginiaeth cryf, wedi iddi sefydlu bwydo, cawsom ni’n tri ddod adre bron i dri mis yn ddiweddarach.

❤️Mari Glyn ein gwyrth fach ni, rwyt ti'n anhygoel❤️

Mae ein diolch i'r NHS yn ddiddiwedd. Mae eu gallu, sgil a'u caredigrwydd wedi achub ein teulu bach ni.

Rydym felly wedi penderfynu codi arian at dair elusen gwbl anhygoel wnaeth helpu ni drwy ein cyfnodau tywyllaf er mwyn iddyn nhw allu parhau i gynnig y gofal gorau posib i fabis a rhieni mewn sefyllfaoedd tebyg.

Mae croeso i chi ddewis un neu rhoi ychydig i ddwy neu’r dair:

- Cots for Tots – https://www.justgiving.com/page/mariglyncotsfortots-1708174610451 Elusen bwrpasol ar gyfer yr Uned Gofal Dwys Newydd-anedig yn Ysbyty St Michael, Bryste sy’n cynnig llety a phecynnau gofal am ddim i deuluoedd i allu aros yn agos i’w babis sydd yn y NICU. Mae’r elusen wedi gweithio’n ddiflino i ddarparu offer achub bywyd, cotiau a chyfleusterau newydd ar gyfer babanod sâl a chynamserol o Dde Orllewin Lloegr a De Cymru.

- Elusen Iechyd Bae Abertawe - Llety Uned Gofal Dwys Newydd-anedig (NICU) Ysbyty Singleton, Abertawe - https://www.justgiving.com/page/mariglynsingleton-1708175389725 Dyma’r ganolfan Gofal Dwys i'r Newydd-anedig o’r lefel uchaf yn Ne Orllewin Cymru ac mae’r llety sydd yno i deuluoedd ar hyn o bryd mewn cyflwr difrifol a byddai’r arian a godir yn mynd tuag at adnewyddu’r 5 llety fydd yn cael effaith enfawr ar les teuluoedd yn ystod yr amser mwyaf dirdynnol, ac annisgwyl yn eu bywydau.

- Elusennau Hywel Dda - SCBU Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin - https://www.justgiving.com/page/mariglynglangwili-1708175933696 Mae'r uned yng Nghaerfyrddin yn cynnwys 1 crud sefydlogi, 4 crud dibyniaeth uchel ac 8 crud gofal arbennig. Mae cael gofal o’r radd flaenaf yn ein cymunedau yn allweddol ac felly rydym yn codi arian i’r elusen yma er mwyn cefnogi’r gwasanaeth pwysig mae SCBU Glangwili yn darparu yn ein hardal leol.

Mae Mari bellach yn mynd o nerth i nerth ac yn parhau i dderbyn gofal arbennig gan Ganolfan Plant Glangwili, dros ddwy flynedd ers iddi ddwyn pen-blwydd ei thad ar yr 22ain o Ragfyr. Rydym yn ddiolchgar tu hwnt am y gofal cafodd Mari gan yr NHS yn Lloegr ac yng Nghymru a’r elusennau cysylltiedig wnaeth ofalu amdanom ni fel rhieni i’n galluogi ni i fod wrth ochr Mari bob cam o’r ffordd.

*English

Between August 1-4, 2024 Carwyn, Mari Glyn's father, and a group of supporters will run from St Michael's Hospital, Bristol, all the way home to Llangynnwr. They will pass the three hospitals that saved Mari's life following a difficult start and will run 'Mari Glyn’s Journey Home' - over 110 miles.

We are raising money for three charities that helped us get our strong, determined, and brave little girl home. Following a heartbreaking diagnosis while 28 weeks pregnant, we had two antenatal procedures in Bristol, before coming to a difficult decision at 31 weeks to deliver her early in a critical condition in a specialist hospital in Bristol.

After 6 weeks in NICU, St Michael's Bristol, with Mari on a ventilator receiving a large number of treatments and several dark days, Mari pulled through, thanks to the special care she received there from the specialists. We couldn't have our first cuddle until she was 5 weeks old. At 6 weeks old, Mari got over the worst and we were able to come back to Wales, but not home yet. We spent another 6 weeks between Singleton Hospital's NICU and Glangwili Hospital's SCBU receiving treatments and care, and slowly, reducing the need for breathing support and strong medication and when she established feeding, the three of us were able to come home almost three months later.

❤️Mari Glyn our little miracle, you are amazing❤️

Our gratitude to the NHS is endless. Their ability, skill and kindness have saved our little family.

We have therefore decided to raise money for three absolutely amazing charities that helped us through our darkest times so that they can continue to offer the best possible care to babies and parents in similar situations.

Feel free to choose one or give a little to two or all three:

- Cots for Tots – https://www.justgiving.com/page/mariglyncotsfortots-1708174610451 A dedicated charity for the Neonatal Intensive Care Unit at St Michael's Hospital, Bristol which offers free accommodation and care packages for families to be able to stay close to their babies who are in the NICU. The charity has worked tirelessly to provide life-saving equipment, cots and new facilities for sick and premature babies from the South West of England and South Wales.

- Swansea Bay Health Charity - Singleton Hospital Neonatal Intensive Care Unit accommodation, Swansea - https://www.justgiving.com/page/mariglynsingleton-1708175389725 This is the highest level Neonatal Intensive Care centre in South West Wales and the accommodation that is there for families at the moment is in a serious state and the money raised would go towards refurbishing it's 5 accommodation houses that will have a huge impact on the well-being of families during the most stressful and unexpected time in their lives.

- Hywel Dda Charities - SCBU Glangwili Hospital, Carmarthen - https://www.justgiving.com/page/mariglynglangwili-1708175933696 The unit in Carmarthen includes 1 stabilisation cot, 4 high dependency cots and 8 special care cots. Having first class care in our communities is key and therefore we are raising money for this charity to support the important services SCBU Glangwili provides in our local area.

Mari is now going from strength to strength and continues to receive special care from Glangwili Children's Centre, over two years since she stole her father's birthday on the 22nd of December. We are extremely grateful for the care Mari received from the NHS in England and Wales and the associated charities that looked after us as parents to enable us to be by Mari's side every step of the way.

Team members (3)

Join team

About the charities

  • Cots for Tots

    RCN 1043603
  • Swansea Bay Health Charity

    RCN 1122805
  • Hywel Dda Health Charities

    RCN 1147863

Donation summary

Total raised
£19,881.82
+ £2,646.81 Gift Aid
Online donations
£11,034.60

* Charities pay a small fee for our service. Find out how much it is and what we do for it.