Thanks for visiting our fundraising page. A team from Estyn are taking on the Three Peaks Challenge. Sixteen of us will attempt to scale the highest mountains in North, Mid and South within just 15 hours!! We need your support to help us raise £4000 for Ty Hafan.
Diolch i chi am ymweld â’n tudalen godi arian. Mae tîm o Estyn yn ymgymryd â her y Tri Chopa. Bydd un ar bymtheg ohonom yn ceisio dringo mynydd uchaf y gogledd, y canolbarth a’r de a hynny i gyd mewn 15 awr!! Mae angen eich cefnogaeth arnom er mwyn ein helpu i gyrraedd y nod o godi £4000 tuag at Dŷ Hafan
Starting at 4am, from Pen y Pass, Snowdonia, we will take on Snowdon, drive down to the mighty Cadair Idris before continuing south to Pen y Fan in the Brecon Beacons. We'll walk a total distance of 20.35 miles and make a total ascent of 9,397ft (2,864m)! Many of our colleagues are helping us through driving, catering and fundraising.
Gan ddechrau am 4 o’r gloch y bore, o Ben y Gwryd, Eryri, byddwn yn dringo’r Wyddfa, yna gyrru lawr i wynebu her enfawr Cadair Idris cyn mynd yn ein blaenau tuag at Ben y Fan yn y De. Byddwn yn cerdded 20.35 milltir ac yn dringo cyfanswm o 9,3979 tr (2,864m)! Mae nifer o’n cydweithwyr yn ein cefnogi trwy yrru, arlwyo neu godi arian.
Donating through Justgiving is quick, easy and totally secure. It’s also the most efficient way to sponsor us: Ty Hafan gets your money faster and, if you’re a taxpayer, Justgiving makes sure 25% in Gift Aid, plus a 3% supplement, are added to your donation.
Mae cyfrannu trwy Justgiving yn gyflym a rhwydd ac yn hollol ddiogel. Yn ogystal dyma’r ffordd fwyaf effeithlon i’n noddi. Bydd Tŷ Hafan yn derbyn eich arian yn gynt ac os ydych yn dalwr trethi yn y DU, bydd Justgiving yn gwneud yn siwr bod 25% o Rodd Cymorth, yn ogystal â 3% yn cael ei ychwanegu at eich cyfraniad.
So please sponsor us now!
Felly, peidiwch ag oedi, noddwch ni nawr!
