Story
Mae Hywel Emlyn Hughes (fy nhad) yn dioddef o'r salwch erchyll Multiple Systems Atrophy ers sawl blwyddyn bellach. Mae criw o ffrindiau fy nhad wedi dod at eu gilydd i drefnu Taith Dractors i godi arian ac ymwybyddiaeth am y salwch. I'r rhai ohonoch fydd ddim yn dreifio Tractor ddydd Sadwrn, ond yn dymuno cyfrannu at yr achos, yna gnewch hynny drwy'r wefan yma os gwelwch yn dda. Efallai y bydd ymchwilio i'r salwch yn golygu y bydd llai a llai o bobol yn dioddef y ffath erchylldra yn y dyfodol - felly mae pob ceiniog yn help!
Diolch i chi gyd rhag blaen am eich haelioni a diolch i bawb am eich cymorth.
Teulu Capel Helyg xx