Diolch o galon am ymweld â'r dudalen hon. 'Dwi wedi penderfynu rhedeg hanner marathon Llyn Llanwddyn ar y 14eg o Fedi eleni. Bydd fy ffrind Ishani yn rhedeg hefyd. Dylid nodi nad ydw i erioed wedi gwneud y fath beth o'r blaen ac fy mod, ers cael y merched, wedi ystyried mai rhedeg ar eu ôl hwy ydi fy mhrif ymarfer corff!
Byddaf yn rhoi unrhyw arian i ddwy elusen sef 'Achub y Plant' a'r Mudiad Meithrin.
Fy mwriad yw gorffen y ras (felly peidiwch â holi mewn faint o amser!) a gwneud hynny drwy redeg (er fy mod yn cadw'r hawl i gerdded neu gropian!).
Gobeithio y byddwch yn dewis fy noddi a diolch o flaen llaw os ydych yn dewis gwneud.
Cofion gorau,
Gwenllian x