Story
Dyfed-Powys yw'r ardal ddiogelaf yng Nghymru a Lloegr ac rwyf am gynnal hyn drwy hyrwyddo diogelwch cymunedol ac atal troseddu er mwyn i chi deimlo'n ddiogel yn eich cartref ac o fewn eich cymuned. Mae Safer Dyfed-Powys Diogel yn addo sicrhau hyn drwy leihau ofn troseddu, darparu addysg a gwybodaeth am ddiogelwch cymunedol, a chefnogi ystod eang o brosiectau gydag ysgolion lleol, grwpiau cymunedol ac elusennau.
Pam dewis yr elusen hon, ‘de?
Cefais fy magu ac rwy’n dal i fyw yn ardal Dyfed-Powys gyda fy nheulu, a fy nôd mewn bywyd yw i helpu eraill. Rwy’n ofalgar am y gymuned, ac rwy'n hollol ymrwymedig i gynrychioli'ch llais. Felly pam yr wyf fi, ynghyd â gwirfoddolwyr eraill, wedi penderfynu cychwyn ar daith epig/arwrol ledled Cymru?
Fel mae’n digwydd, rwy’n caru:
• helpu eraill;
• Cymru;
• fy meic;
• cyfarfod a siarad â phobl; ac yn bwysicaf oll
• dwli ar her