Am y tro cyntaf mewn cenhedlaeth, mae tlodi byd eang yn cynyddu. Mae Covid-19, gwrthdaro, a'r argyfwng hinsawdd yn gwthio mwy on cymdogion byd eang i frwydr dros oroesi.
I Jessica, mam gariadus yn Zimbabwe, mae sychder yn golygu fod pob dydd yn ymdrech dros oroesi. Fel llawer o ferched, mae'n gweithio ar ei fferm, ond all dim bwyd dyfu ar y tir sych. Mae'n rhannu ei phryder: Mae fy mhlant yn ysu am bryd bwyd da, ond allai moi roi. Rydym yn aml yn mynd i'r gwely ar stumog wag. Mae'n boenus eu hanfon i'r gwely yn llwglyd.
Trwy fy nghefnogi i godi arian gyda beth bynnag y gallwch ei fforddio, gyda'n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth go iawn i deuluoedd fel un Jessica. Gyda chefnogaeth gan bartneriaid Cymorth Cristnogol gall Jessica ddysgu sut i blannu cnydau sychder-wydn a sut i dyfu bwyd mewn tymor sych. Gallai adeiladu storfa i gadw bwyd ai helpu trwy sychder i ddod.
Os gwelwch yn dda, rhowch heddiw, a helpu'r fam gariadus hon i roi bwyd i'w theulu. Diolch.