Story
Prydera Jessica, mam gariadus yn Zimbabwe, na fydd ei theulu'n bwyta heno.
Pan fo bwyd yn brin, dim ond un bowlen o uwd y dydd y gall hi ei roi i'w phlant. Torra ei chalon wrth eu hanfon i'r gwelyn llwglyd.
Am y tro cyntaf mewn cenhedlaeth, mae tlodi byd eang yn cynyddu. Mae Covid-19, gwrthdaro, a'r argyfwng hinsawdd yn gwthio mwy on cymdogion byd eang i frwydr dros oroesi. I Jessica, mae sychder yn golygu fod pob dydd yn ymdrech dros oroesi. Fel llawer o ferched, mae'n gweithio ar ei fferm, ond all dim bwyd dyfu ar y tir sych.
Un flwyddyn, doedd dim glaw. Llosgodd yr haul deifiol fy nghydau pan oeddynt ar fin blodeuo. Roedd mor boenus a thorcalonnus.
Unwaith, pan oedd pethau'n anobeithiol, gofynnodd Jessica i'w chymydog am fwyd. Ond ddaeth hi â dim yn ôl gyda hi. Mae Jessica yn llwglyd. Llwglyd am fwyd da. Llwglyd i ennill bywoliaeth ddigonol. Llwglyd i ddarparu dyfodol gobeithiol i'w theulu.
Yr Wythnos Cymorth Cristnogol hon gallai eich rhoddion drawsnewid bywydau. Gallai eich codi arian helpu Jessica i dyfu cnydau syn sychder-wydn. Gallech ei helpu i sefydlu tapiau dŵr ar ei fferm a'i dysgu sut i dyfu bwyd mewn hinsawdd lem. Bydd yn troi ei thir sych a llychlyd yn ardd o obaith.
Wnawn ni ddim rhoi'r gorau iddi nes bod gan bawb fywyd llawn, yn rhydd o newyn. Wnewch chi ymuno gyda ni?